Paru Caws a Cwrw

Gan ei bod hi’n ddiwrnod cwrw Prydain ar y 15fed o Fehefin ac yn Sul y tadau ar y 18eg o Fehefin penderfynom baru’r ddau er mwyn creu yr anrheg perffaith ar gyfer Sul y tadau.

Daethom o hyd i 2 dad a mynd a nhw draw at ein ffrindiau yn Purple Moose Brewery er mwyn creu parau perffaith ar eich cyfer.

DSC_1563

Dyma ganlyniad ein diwrnod:

Caerffili a Cwrw Ysgawen

DSC_1513

Mae ein caerffili ysgafn, briwsionllyd yn ategu at flas hafaidd moethus y cwrw ysgaw

————————–

Caws clasurol a Chocolate Moose

DSC_1567

Mae blas cryf y caws clasruol yn paru’n berffaith efo’r stowt llyfn, cyfoethog a’r ôl flas o siocled

————————–

Caws Dragon Mwyn ,Caws Dragon Aeddfed efo Cwrw Eryri

maturesnowdonia

Mae’r cwrw euraidd hwn yn amryddawn ac yn ategu at ein caws mwyn ac ein caws aeddfed, yn ddibynnol ar eich tast chi

————————–

Caws o’r ceudwll efo Dark side of the Moose

DSC_1551

Cafodd y paru rhwng caws o’r ceudwll ac ochr dywyll y Mŵs ei bleidleisio fel y cyfuniad gorau ar y diwrnod am fod cryfder a dyfnder y cwrw yn ychwanegu at flas ein caws cryf.

————————–

Caws o’r ceudwll efo Cwrw Madog

british-cheese-awards

Mae Cwrw Madog yn gwrw traddodiadol Prydeining. Mae ei flas yn gweddu’n dda efo cryfder ein caws o’r ceudwll

————————–

Caws clasurol efo cennin efo Antlered IPA

V+Lantlered

Mae gan ein caws clasurol efo cennin flas sawrus cryf a oedd yn cydfynd yn dda efo blas hops yr IPA ‘Antlered’

————————–
Caws Mwyn, Canolig ac Aeddfed Dragon Mŵsh

DSC_1539

Cwrw wedi ei wneud ar ffurf lager yw Mŵsh. Mae ei flas ysgafn, hafaidd yn cyd fynd yn berffaith efo ein cawsiau ysgafn ni.

**************************

Diolch am ein gwahodd draw Mws Piws!

DSC_1531(2)