Fferm deuluol ger Rhyl yw Rhydordwy Fawr. Mae’r teulu wedi bod yn ffermio yma ers 97 o flynyddoedd. Mr Thomas a’i feibion, Gareth a Huw sy’n ffermio yma bellach.
Ers pryd yda chi wedi bod yn ffermio yma?
Yn y teulu ers 1923
Ers faint yda chi’n aelod o’r hufenfa?
Dim ond 2 flynedd
Faint o wartheg sgyno chi?
160 yn cael eu godro ar hyn o bryd
Faint o gloch yda chi’n godro?
4:45yb + 3yp
Hoff ran o’r swydd?
Lloi yn ran neis or swydd, cael gweld a helpu gwartheg newydd ddod i’r byd
Cas swydd?
Dim byd, wrth ein boddau yn ffermio yma!