Noson Tân Gwyllt

4th Tachwedd 2019



Yda chi’n mynd i weld yr arddangosfa tân gwyllt lleol heno, neu yn cynnal noson eich hunain?

Beth bynnag yda chi am neud, be’ am gael swpar syml ond effeithiol? Rydym ni wedi gweithio efo Edwards of conwy i ddod a’r syniadau ryseitiau yma i chi!

I'r plant

Ci poeth mewn bynsen siâp ci, sôs coch a caws wedi'i gratio


Dsc 3202 Large

‘Ci’ poeth gan ddefnyddio selsig porc chipolata Edwards o Gonwy mewn bynsen efo caws Dragon a sôs coch.

Defnyddiwch ffyn bara fel coesau, eisin parod i’r gwyneb a bara fel trwyn a clustiau.

R'wbath i bawb

Porc a Tsili


Dsc 3230 Large

Selsig Cumberland Edwards o Gonwy efo jam tsili, pupur coch wedi’i rostio a caws cryf wedi’i gratio (Aeddfed neu Clasurol)

Traddodiadol


Dsc 3246 Large

Selsig traddodiadol Edwards of Conwy efo siytni nionyn coch, nionod wedi’i ffrio a Caws Aeddfed Dragon wedi’i gratio. [Gweithio yn dda efo caws Clasurol efo Cennin Dragon)