Mewn powlen, cymysgwch y cig eidion, garlleg, saws tsili a’r halen a pupur. Ar ol cymysgu, gwnewch 8 byrgyr tua ½ modfedd o drwch. |
Cynheswch badell ffrio ar wres canolig a ffriwch y cig moch nes ei fod yn grimp. Tynnwch o’r badell a’i roi ar bapur cegin. |
Coginiwch y nionod yn saim y cig moch nes yn dyner, tua 5 munud. Rhowch y nionod a’r cig moch mewn powlen efo’r caws wedi’i gratio. Rhowch lwyaid o’r gymysgedd ynghanol 4 o’r byrgyrs a rhoi’r byrgyrs eraill ar eu pennau a chau yr ymylon. |
Coginiwch y byrgyrs dros wres canolig-uchel. Trowch y byrgyrs drosodd nes eu bod wedi’i coginio i’ch tast chi, tua 4 munud i gael canolig. Gweinwch yn y baps efo’r tomato, picyl a’r letis a salad neu sglodion ar yr ochor. |
|
|