Torrwch top yr afalau i ffwrdd (tua 2 cm) a tynnwch y canol allan gan ddefnyddio sgwp melon |
Mwydwch y syltanas yn y wisgi Penderyn i’w ailhydradu (neu defnyddiwch de, sudd afal neu unrhyw hylif o’ch dewis) |
Cyfunwch y menyn, siwgwr, blawd, ceirch a sinamon gyda’i gilydd i wneud crymbl |
Llenwch yr afalau gyda’r syltanas a’i orchuddio efo’r gymysgedd crymbyl |
Gratiwch y caws dros ben pob afal, gan gynnwys y caead |
Pobwch yr afalau a’r caedaua mewn popty 180 gradd am 25-30 munud |
Rhowch y caead yn ôl ar ben yr afal a’i weini efo hufen ia, cwstard neu hufen |