Cynhewswch y popty i 160C, torrwch y tomatos yn eu hanner a’i cymysgu efo ‘chydig o olew a halen a pupur. Rhostiwch yn araf am 45-60 munud |
Lapiwch y garlleg mewn foil a’i roi yn y popty efo’r tomatos |
Pan yn barod; rhowch y tomatos a un ewin o’r garlleg rhost (wedi’i blicio) mewn i gymysgwr a’i ‘blitzio’ nes yn saws trwchus. Rhowch mewn botyn efo caead. |
Cymysgwch y caws efo’r pupur mewn powlen. Rhowch 100g ohono ar un wrap tortilla a rhoi wrap arall ar ei ben. Rhowch y wraps mewn padell sych a’r dymheredd canolig. |
Coginiwch am 5 munud pob ochor a tan fod y caws wedi toddi |
Gwnewch fwy o wraps neu cadwch y gymysgedd caws a pupur at ddiwrnod arall |
Gadewch iddo oeri a’i dorri mewn i chwarteri |