Mewn sosban fawr, ffriwch y nionyn mewn menyn am 1-2 munud, ychwanegwch y pwmpen cnau melyn a’i droi am funud |
Ychwanegwch y stoc a’r siwgr a chodi i ferw, gostyngwch i wres canolig a’i fudferwi tan mae’r bwmpen cnau melyn yn feddal ac wedi coginio trwyddi (tua 15 munud) |
Tynnwch oddi ar y gwres a’i adael i oeri. Defnyddiwch cymysgydd trydan i’w wneud i biwrî llyfn |
Rhowch y cawl yn ôl yn y sosban a’i roi ar wres isel/canolig. Ychwanegwch yr hufen, caws, halen a phupur |
Cymysgwch y cawl tan mae’n boeth, ond ddim yn berwi. Gweinwch yn boeth efo cennin syfi wedi’i ysgeintio arno |
Blasus gyda thafell o fara cnau ffrenig neu granari a mwy o gaws wedi ysgeintio ar ben y cawl. |