Tatws Dauphinoise efo Madarch Cawslyd

Perffaith efo Stêc

Valentines Steak Dinner

Amser paratoi: 30 Munud | Amser coginio: 30 Munud | Barod: 1 Awr | Cyfran: 2




Cam wrth gam


Cynhwysion rysáit
I'r Dauphinoise
4 Taten fawr (Marabel neu Maris Piper)
100ml o Hufen Dwbl
Halen a Phupur
50g-100g Caws Clasurol Dragon
2 Ewin Garlleg
Menyn i’r ramecins
I'r Madarch
2 Madarch Portobello Mawr
Caws Clasurol efo Cennin Dragon
Recipe Directions
I'r Dauphinoise
1. Defnyddiwch fandolin i sleisio eich tatws yn denau. Yna piliwch a thorrwch y garlleg yn fân.
2. Gratiwch y caws a’i osod mewn bowlen.
3. Gorchuddiwch y ramecins efo menyn.
4. Haenwch y tatws, caws, garlleg, halen, pupur efo sblash o hufen yn y ramecins ac ailadrodd y camau tan ei bod nhw’n llawn.
5. Adiwch gaws ychwanegol ar y top.
6. Rhowch y ramecins llawn ar hambwrdd pobi a phobwch yn y popty ar 200˚ am tua 20 munud tan fod yn frown-aur ac wedi coginio yn iawn.
I'r Madarch
1. Piliwch y madarch
2. Adiwch ddigonedd o gaws clasurol efo cennin Dragon.
3. Rhowch ar hambwrdd a phobwch tan fod y caws yn frown-aur.
4. Mwynhewch!