
Amser paratoi: 10 Munud | Amser coginio: 1 Awr | Barod: 1 Awr a 10 Munud | Cyfran: 2
Cam wrth gam
Cynhwysion rysáit |
---|
2 Daten Bob |
60g Caws Clasurol efo Cennin (Dragon) |
2 Lwy Fwrdd o Ham (wedi'i goginio a'i dorri'n fân) |
1 Llwy De o Fwstard Grawn Cyflawn |
Pupur Du Fres |
Halen Môr Halen Mon |
Olew Olewydd |
ALTERNATIVE FILLING |
60g Caws Aeddfed |
1 Llwy Fwrdd o Saws Tsili (dibynnu pa mor boeth yda chi isho fo) |
Recipe Directions |
---|
1.Cynheswch eich popty i 200C/nwy 6 |
2.Golchwch eich tatws a rhwbio olew a halen drostynt |
3.Pobwch nes eu bod wedi coginio trwadd ac yn grimp ar y tu allan (tua awr) |
4.Tynnwch o’r popty a’u gadael i oeri |
5.Torrwch y tatws yn eu hanner a tynnu’r canol allan a’i roi mewn powlen |
6.Ychwanegwch y caws, ham a’r mwstard a’i gymysgu’n dda |
7.Rhowch y gymysgedd yn ol yn y croen a’i bobi eto nes yn euraidd a chrimp |