
Amser paratoi: 20 | Amser coginio: 40 | Barod: 60 | Cyfran:
Pryd i gnesu yn ystod yr Hydref gan ddefnyddio cig lleol Edwards o Gonwy a llysiau ffres Blas y Tir ynghyd a caws a menyn Dragon, bendigedig!
Cam wrth gam
Cynhwysion rysáit |
---|
HOTPOT TATWS A SELSIG |
6 selsig cig moch |
6 sleisen o gig moch wedi’i fygu â derw |
6 deilen bresych |
1 nionyn Mawr (wedi’i dorri’n fân) |
3 moron mawr (wedi’i torri’n fân) |
1 blodfresych mawr |
100g menyn hallt |
Halen a pupur |
1 llwy fwrdd Mwstard grawn cyflawn |
450ml stoc llysiau |
150g caws clasurol Dragon (wedi’i gratio) |
Sbrigyn o theim |
Tatws Maris Piper a tatws Rudolph (gadael y croen arnynt a’u sleisio’n dennau) |
LLYSIAU GWYRDD YR HYDREF |
4 sleisen o gig moch wedi’i fygu â derw (wedi’i dorri’n frâs) |
1 cenhinen fawr (wedi’i sleisio’n denau) |
Lwmpyn mawr o fenyn hallt Dragon |
300g pys wedi’i rhewi |
30g caws clasurol a chennin Dragon (wedi’i friwsioni) |
Sbrigyn o teim ffres |
Halen a Pupur |
Recipe Directions |
---|
HOTPOT TATWS A SELSIG |
Cynheswch y popty i 180C ffan |
Rhowch y darnau blodfresych mewn tun rhostio, arllwyswch ychydig o olew, halen a phupur drosto a’i rostio nes eu bod yn troi’n euraidd. |
Lapiwch bob selsig gyda sleisen o gig moch a’u brownio mewn padell ffrio, rhowch i un ochr. |
Berwch ddwr mewn sosan ag ychwanegu’r dail bresych. Coginiwch am ychydig o funudau ac yna eu rhoi mewn powlen o ddwr oer i stopio’r dail goginio. Unwaith bydd y dail ddigon oer, lapiwch yn dynn o amgylch y selsig a’i rhoi mewn dysgl gaserol fawr. |
Rhowch y moron yn y badell gafodd ei ddefnyddio i frownio’r selsig a’u rhoi yn y ddysgl dros y bresych. |
Ychwanegwch ychydig o fenyn i’r badell a choginio’r garlleg a’r nionyn nes eu bod yn feddwl. Ychwanegwch y teim a halen a pupur. |
Tynnwch y blodfresych o’r popty a’u rhoi mewn jwg/powlen a rhoi’r gymysgedd nionod ar ei ben. Ychwanegwch y caws wedi’i gratio, mwstard a stoc. Defnyddiwch gymysgwr trydan i gymysgu’r cyfan yn esmwyth. Rhowch y saws ar ben y parseli selsig. |
Sleisiwch y tatws yn dennau efo mandolin neu efo llaw a’u trefny ar ben y saws yn sefyll fel fod y croen yn gwynebu fyny. |
Toddwch weddill y menyn a’i frwsio ar hyd y tatws cyn roi mwy o halen a pupur a teim. |
Rhowch gaead ar y ddysgl a’i goginio am 40-50 munud |
Gwnewch yn siwr fod y tatws wedi coginio trwodd yna tynnwch y caead a troi’r gwres fyny i 200C ffan a’i goginio am 10 munud nes fod y tatws yn grimp. |
LLYSIAU GWYRDD YR HYDREF |
Toddwch y menyn mewn padell ffrio, ychwanegwch y cig moch, cennin a teim. Coginiwch nes fod y cig moch wedi coginio trwodd a’r cennin yn feddal. |
Ychwanegwch y pys a’u coginio am 3-4 munud |
Ychwanegwch halen a pupur i’ch blas |
Rhowch mewn powlen fawr a briwsioni’r caws drosto. |