Cynheswch y popty i 180C ffan |
Casglwch y crwst sy’n weddill gyda/i gilydd a’i rolio i siap cylch bras a’i roi ar dun pobi. |
Coginiwch y nionyn mewn padell ffrio ac yna gadael iddynt oeri |
Mewn powlen, crymblwch y caws ac ychwanegu’r cennin, perlysiau, mwstard, hadau mwstard a’r nionod. Cymysgwch gyda’i gilydd. |
Gosodwch yr holl gynhwysion ar hanner y crwst, gan beidio ei roi rhy agor i’r ochor. |
Brwsiwch yr wy wedi’i guro ar yr ymyl a chodi ochr arall y crwst i lawr dros y gwaelod. Gwasgwch yr ymylon i selio. Tacluswch yr ymylon i siap hanner cylch. Defnyddiwch fforc i selio’r ochrau eto. |
Gwnewch 3 hollt yn nhop y pastai er mwyn i’r gwres ddianc tra’n coginio. |
Brwsiwch wy dros y pastai ac ychwaneu hadau pabi ar ei ben |
Pobwch am 15-20 munud nes ei fod yn frown euraidd |