Cynheswch y popty i 160C, torrwch y tomatos yn eu hanner a’i cymysgu efo ‘chydig o olew a halen a pupur. Rhostiwch yn araf am 45-60 munud. Gadewch i oeri. |
Mewn powlen cymysgwch y tomatos, ciwcymbyr, nionyn coch, olewydd a letys. |
Ychwanegwch y caws Caerffili a’i gymysgu |
I’r dresin: cyfunwch sudd 1 lemwn, olew (hanner faint o sudd lemwn sydd ganddo chi) oregano sych, halen a pupur. Cymysgwch yn dda a’i roi mewn potyn efo caead. |
Cynheswch y bara pitta mewn tostiwr neu o dan gril nes ei fod yn codi yn y canol; torrwch yn ei hanner a’i agor fel poced |
Llenwch y bara pitta efo’r llenwad. Mwynhewch! |