Coginiwch y pasta yn ôl y cyfarwyddiadau ar y paced, draeniwch yn dda a’i roi i un ochr. Cynheswch y popty i 200 ffan/ nwy 6. |
Yn y cyfanswer paratowch y saws. Rhowch y menyn a’r olew mewn padell ffrio mawr dwfn dros wres canolig. Pan fydd y menyn wedi toddi ychwanegwch y garlleg a’i ffrio am un munud. |
cymysgwch y blaws mewn i’r gymysgedd yn y badell a’i goginio am 1-2 munud, ychwanegech y paprica a’r brandi a’i goginio am funud arall. Ychwanegwch y llefrith mewn yn araf fesul tipyn nes ei fod yn llyfn. |
trowch y gwres i fyny a’i fudferwi am 5 munud nes ei fod wedi twchu. Ychwanegwch y mwstard, saws swydd Caerwrangon, Tabasco, sudd lemwn a rhan fwyaf o’r caws wedi’i gratio i mewn. |
Cymysgwch y corgimychiaid (wedi’i plicio) y pasta a’r hadoc mewn i’r saws caws. Rhowch y gymysgedd yn eich dysgl pobi a gosod y 6 corgimwch (mewn plisgyn) ar ei ben. Gratiwch weddill y caws ar ben y cyfagn a’i bobi am 20 munud nes fod y caws yn eruaidd a’r pysgod wedi’i coginio. |