‘Quiches’ Bach sydyn

Photo 24 03 2020 12 27 472 Large

Amser paratoi: 5 | Amser coginio: 20 | Barod: 25 | Cyfran: 6




Cam wrth gam


Cynhwysion rysáit
2 wrap tortilla
80g caws Aeddfed Dragon wedi’i gratio
3 wy
6 sleisen o gig o’ch dewis e.g. ham, Salami, Pepperoni
Topins o’ch dewis e.g. tomatos, nionon, pupur
Recipe Directions
Cynhewch y popty i 180C/160 ffan/nwy 4
Gan ddefnyddio gwydr neu fyg, torrwch gylchoedd allan o’r tortilla – ddylsa chi gal 3 o bob wrap.
Rhowch y cylchoedd tortilla mewn tun cacenni bach i greu powlen ar gyfer eich topins.
Curwch yr wyau efo ¾ o’r caws a’i ychwanegu i’r bowlen tortilla, ychwanegwch y topins, rhoi gweddill y caws ar ei ben a’i bobi am 15-20 munud tan fod yr wy wedi’i goginio.
Gweinwch fel byrbryd neu i ginio efo salad bach



 Rhannu ar Facebook |  Rhannu ar Twitter