
Amser paratoi: 10 | Amser coginio: 15 | Barod: 30 | Cyfran: 6
Cam wrth gam
Cynhwysion rysáit |
---|
CRYMPETS |
125ml llefrith |
100ml dŵr oer |
½ llwy de o siwgr mân |
½ llwy fwrdd o furum sych |
½ llwy de o bicarbonad |
150g blawd bara |
½ llwy de o halen |
½ llwy de o fwstard |
120g Caws Aeddfed Dragon wedi’i gratio |
RAREBIT |
1 cenhinen wedi’i sleisio |
2 llwy fwrdd o flawd plaen |
120g Caerffili Dragon wedi’i grymblo |
1 wy mawr wedi’i guro |
75ml llefrith cyflawn/cwrw |
1 llwy de o fwstard |
5 dropyn o saws ‘Worcestershire’ |
Halen a pupur |
Menyn dragon i iro a meddalu’r cennin |
TOPINS DEWISIOL |
Wyau |
Bacwn wedi'i fygu |
Petalau blodau bwytadwy |
shibwns |
Recipe Directions |
---|
CRYMPET |
Cynheswch y llefrith a dwr mewn sosban, ychwanegwch y burum a’r siwgwr a’i adael nes yn ewynnu |
Cymysgwch y blawd, halen a bicarb mewn powlen, ychwanegwch y gymysgedd llefrith a’i gymysgu nes yn llyfn |
Gadwch y gymysgedd am 45 munud nes ei fod yn dechrau byrlymu. Ychwanegwch y caws a’r mwstard |
Irwch tu fewn i gylchoedd crympet efo Menyn Cymreig Dragon |
Rhowch y cylchoedd mewn padell ffrio a’u llenwi ¾ llawn efo’r gymysgedd crymped |
Coginiwch am 8-12 munud tan fod y r arwyneb yn byblo a wedi setio |
Trowch y crymped drosodd, tynnwch y cylch a’u coginio am 1 munud. Ail adroddwch efo gweddill y gymysgedd |
Sleisiwch y cennin a’i feddalu mewn padell efo Menyn Dragon |
RAREBIT |
Coginiwch y blawd, caws, wy, llefrith a mwstard, saws ‘Worcestershire’ a halen a phupur mewn sosban nes eu bod yn drwchus ac yn byrlymu. Ychwanegwch y cennin wedi’i feddalu, cymysgwch yn dda a’i adael i oeri nes yn barod i weini. |
Ffriwch wy mewn chydig o olew mewn cylch crymped, coginiwch y bacwn yn yr un badell |
I weini, rhowch y crymped ar bapur pobi efo’r wy ar ei ben yna’r gymysgedd rarebit a griliwch tan yn byrlymu ac yn dechrau troi’n liw euraidd. I orffen, addurnwch efo nionyn wedi’i dorri a petalau blodau bwytadwy. |