
Amser paratoi: 10 mins | Amser coginio: 10 mins | Barod: 20 mins | Cyfran: 4
Cam wrth gam
Cynhwysion rysáit |
---|
400g o stec filed wedi’i sleisio’n stribedi tenau |
Wisgi Penderyn |
2 lwy fwrdd o olew olewydd |
Cnau Ffrengig wedi’i hanneru |
Mêl Cymreig |
120g cheddar Penderyn Dragon wedi’i friwsioni |
3 Llond llaw o ddail salad wedi’i golchi (letis Baby gem, chard neu sbigoglys) |
DRESIN:: |
2 lwy fwrdd o olew olewydd |
1 llwy fwrdd o sudd lemon |
1 llwy fwrdd o fêl |
Recipe Directions |
---|
Marineiddiwch y stribedi cig Eidion yn y wisgi am 2 awr neu dros nos |
Rhowch y cnau Ffrengig mewn powlen a’i gorchuddio mewn haen denau o fêl Taenwch y cnau a’r dun pobi wedi’i orchuddio mewn papur pobi a’i rhostio mewn popty poeth tan yn frown euraidd a chrimp. Gadwch iddynt oeri |
Coginiwch y cig Eidion yn yr olew a’i goginio tan mae at eich dant chi (2-3 munud) |
Gorchuddiwch y dail salad yn y dresin a’i roi ar y plat gweini |
Rhowch y cig eidion, y cnau a’r caws ar ben y cyfan a’i weini’n syth |