Cyfunwch y caws wedi'i dorri, 100g o fenyn a chwrw Cymreig mewn prosesydd bwyd. Cymysgwch y gymysgedd nes ei fod yn hufennog. |
Trowch y mwstard grawn cyflawn i mewn. |
Paciwch y gymysgedd yn dynn i mewn i ramekins neu botiau ceramig - gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso i lawr i ddileu unrhyw bocedi aer. |
Toddwch y menyn sydd ar ol a'i adael i eistedd am ychydig funudau i'r braster wahanu o'r solidau llaeth. |
Arllwyswch y braster clir dros y caws - gan adael y solidau llaeth yn y badell. |
Oerwch yn yr oergell am ychydig oriau nes bod y brig wedi caledu. |