
Amser paratoi: 30 munud | Amser coginio: 1.5 awr | Barod: 2 awr | Cyfran:
Cam wrth gam
Cynhwysion rysáit |
---|
2kg o Syrlwyn Cig Eidion |
500g Cennin Bach |
500g Brocoli |
500g o Asparagws |
1kg o Datws Maris Piper |
2 Ewin o Garlleg |
500ml o Hufen Dwbwl |
300g caws aeddfed efo cennin Dragon |
200g Menyn Hallt Cymreig Dragon |
Pea Cress |
Recipe Directions |
---|
CIG EIDION |
Tynnwch unrhyw fraster ychwanegol i ffwrdd o’r syrlwyn, torrwch mewn i stêc a'i frownio'n dda ar bob ochr yn y menyn. Oerwch y cig drwy ei osod mewn ‘cling film’ ai rholio’n dyn ai osod yn yr oergell. Fel arall, rostiwch y cig eidion yn gyfan nes ei fod yn binc yn y canol |
TATWS |
Pliciwch a sleisiwch y tatws yn denau ac ychwanegwch yr hufen, garlleg, halen a phupur a berwch. Unwaith mae wedi berwi rhowch y tatws i mewn i dun bara neu fowld terrine gorchuddiwch mewn ffoil a'i bobi am 30-35 munud ar 170C. Unwaith mae o wedi gorffen coginio rhowch dun arall ar ri ben a'i wasgu dros nos. (Mi fydd yr hufen ychwanegol yn dod allan o’r gratin felly rhowch dre danodd) |
Fel arall, irwch dre pobi efo menyn a gosodwch y tatws mewn haenau tolldwch y cymysgedd hufen, garlleg, halen a phupur dros y tatws ac ychwanegu caws wedi ei ratio. Rhowch y tatws yn y popty i bobi am tua 1 awr tan ei bod wedi coginio trwodd ac yn lliw brown euraidd. |
VEGETABLES |
Pliciwch y llysiau a'u coginio mewn dŵr hallt berwedig am 2-3 munud a wedyn ei rhoid mewn dŵr oer am ychydig i gadw’r llysiau yn ffres. |
GWEINI |
'Sous vide' yw’r ffordd fwyaf cyson o goginio'r cig eidion. Awgrymwn eich bod yn coginio’r cig eidion am 1 awr ar 54C i gael cig tendr, neu rhostiwch mewn padell sydd efo digon o fenyn am 2 funud a hanner i bob ochr a’i adael i orffwys am 4 munud cyn gweini. Os rydych wedi rhostio’r cig yn gyfan gweinyddwch tra mae’r cig yn gynnes. |
Rhowch y gratin tatws yn y popty efo ychydig o gaws wedi ei ratio ar ei ben ai bobi am 10-12 munud |
Cynheswch y llysiau mewn sosban efo menyn, neu os rydych yn chwilio am wmff ychwanegol, gwnewch ‘reduction’ hefo stoc cyw iâr a menyn ac wedyn ychwanegu'r llysiau |
Gweinwch ar blât cynnes a gorffennwch efo jws a ‘pea cress’. Mwynhewch! |