Berwch y llefrith cyn ychwanegu’r tatws a’r nionyn, berwch nes eu bod yn feddal |
Ychwanegwch 75g o’r caws a’i flendio new yn llyfn. Ychwanegwch halen a pupur i’ch blas. |
Yn y cyfamser, coginiwch y bacwn yn y popty tan ei fod yn grimp. Gratiwch y 50g o gaws a’i goginio a’r bapur pobi am tua 5 munud tan ei fod yn euraidd ac yn grimp. Torrwch y sifys yn fân. Rhowch y sifys mewn prosesydd bwyd efo ‘chydig o olew olewydd i greu olew sifys. |
Gweinwch y cawl mewn powlen efo’r caws, bacwn a dropyn o’r olew sifys. |
|