
Amser paratoi: 10 | Amser coginio: 15 | Barod: 25 | Cyfran:
Cam wrth gam
Cynhwysion rysáit |
---|
4 shibwn wedi’i sleisio’n fân |
4 llwy fwrdd o datws stwnsh |
90g caws clasurol efo cennin wedi’i gratio |
Mymryn o saws ‘tobasco’ |
100g briwsion bara ‘panko’ wedi’i cymysgu efo llwy de o paprica wedi’i fygu |
2 llwy fwrdd o flaw defo pinsiad o bowdr tsili |
Olew olewydd |
Wy wedi’i guro efo halen |
Recipe Directions |
---|
Cymysgwch y tatws stwnsh, nionyn a’r caws cyn ychwanegwch y saws tobasco |
Roliwch y gymysgedd mewn i beli bach yr un maint a rhowch i un ochr |
Paratowch 3 plat er mwyn gorchuddio’r croquettes: blawd efo powdr tsili, wy wedi’i guro a briwsion bara |
Rholiwch y peli yn y blawd, yna’r wy a’r briwion bara yn olaf |
Rhowch ar bapur pobi i osgoi’r peli lynu efo’i gilydd |
Ar ol gwneud y peli i gyd, gorchuddiwch mewn olew olewydd a’i pobi mewn popty poeth, 180C, gas 6 am tua 15 munud tan eu bod yn frown euraidd a poeth |
Peidiwch a poeni os ydi’r croquettes yn torri, mi fydda nw yr un mor flasus! |
Gweinwch efo saws tsili melys |