Fajitas Twrci & Cheddar

Yda chi angen rwbath i neud efo'r tyrci sydd dros ben?

Dsc 3463 Large

Amser paratoi: 10 | Amser coginio: 5 | Barod: 15 | Cyfran: 4




Cam wrth gam


Cynhwysion rysáit
400g twrci wedi ei goginio a’i rwygo
3 llwy fwrdd o saws tsili melys
1 llwy fwrdd o olew olewydd
Sudd leim
Cumin
8 wrap tortilla
1 nionyn coch wedi’i sleisio’n dena
120g cheddar aeddfed wedi’i gratio
Hanner letis Iceberg neu rocket
1 avocado wedi’i blicio a’i sleisio’n dena
Siytni Mango
Crème Fraiche
Halen Môr Halen Môn
Pupur du
Recipe Directions
Cymysgwch y saws chili, olew olewydd, cumin a sudd leim – gorchuddiwch y twrci a’i farineiddio am awr
Ffriwch y nionon mewn ‘chydig o olew tan yn feddal, ychwanegwch y twrci a’i goginio tan fod y twrci yn boeth
Cynheswch y wraps mewn meicrodon am 30 eiliad
Rhowch siytni Mango ar y wraps a rhoi’r letis, avocado a twrci ar ei ben
Rhowch ‘chydig o crème fraiche ar ben bob dim ai ysgeintio efo caws wedi’i gratio
Rhowch halen a pupur arno ai fwynhau!



 Rhannu ar Facebook |  Rhannu ar Twitter